All 'school admissions queries' are all done via Carmarthen Council website.
Please search Carmarthenshire School Admissions where further information is available and follow the link to apply for a place at Ysgol yr Hendy.
Following consultation, the Primary rising 4s policy was discussed by Carmarthenshire County Councils’ Cabinet on 25th March 2024. The decision was made to remove the Rising 4s policy and admit full time learners to primary schools in the school term following their fourth birthday. This policy change will be implemented from the 2025/26 Academic Year by all Community, Voluntary Aided & Controlled schools within the County.
This change will affect children born on or after the 1st September 2021 onwards. The following table summarises the start dates for pupils based on their date of birth, together with the deadline for submitting the admissions application and the date of notification of decision.
Child’s Date of Birth Range | Admission Term | Expected admission Start Date | Closing date for applications | Notification of decision date |
1 September 2021 to 31 December 2021 | Spring Term 2026 | January 2026 |
31st January 2025 |
16th of April 2025 or next working day |
1 January 2022 to 31 March 2022 | Summer Term 2026 | April 2026 | ||
1 April 2022 to 31 August 2022 | Autumn Term 2026 | September 2026 |
_________________________________________________________________________
Gwneir pob 'ymholiad derbyn i ysgolion' ar wefan Cyngor Caerfyrddin.
Chwiliwch drwy'r adran Derbyniadau Ysgolion Sir Gaerfyrddin lle mae rhagor o wybodaeth ar gael a dilynwch y ddolen i wneud cais am le yn Ysgol yr Hendy.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, trafodwyd y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd gan Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ar 25 Mawrth 2024. Penderfynwyd dileu'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed a derbyn dysgwyr yn amser llawn i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Bydd y newid polisi hwn yn cael ei weithredu o Flwyddyn Academaidd 2025/26 gan yr holl Ysgolion Cymunedol, Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn y Sir.
Bydd y newid hwn yn effeithio ar blant a anwyd o 1 Medi 2021 ymlaen. Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r dyddiadau cychwyn ar gyfer disgyblion yn seiliedig ar eu dyddiad geni, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau derbyn a’r dyddiad hysbysiad o benderfyniad.
Ystod Dyddiad Geni'r Plentyn | Y Tymor Derbyn | Dyddiad Dechrau Disgwyliedig | Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais | Dyddiad hysbysiad o benderfyniad |
1 Medi 2021 i 31 Rhagfyr 2021 | Tymor y Gwanwyn 2026 | Ionawr 2026 | 31 Ionawr 2025 | 16 Ebrill 2025 neu'r diwrnod gwaith nesaf |
1 Ionawr 2022 i 31 Mawrth 2022 | Tymor yr Haf 2026 | Ebrill 2026 | ||
1 Ebrill 2022 i 31 Awst 2022 | Tymor yr Hydref - 2026
| Medi 2026 |