Menu

Ysgol yr Hendy

Law yn llaw, gyda’n gilydd, cymaint mwy

Welcome

Croeso / Welcome

 

 

Cathryn Jones - Prifathrawes / Headteacher
 Swyddog Amddiffyn Plant / Senior Designated Person for Child Protection

 

Mae’n bleser cyflwyno fy hun fel Pennaeth balch Ysgol Yr Hendy.

 

Pan mae plant yn hapus yn yr ysgol, credwn eu bod yn ffynnu. Mae Ysgol Yr Hendy yn ysgol ofalgar, gymunedol lle mae’r plant yn cael y cyfle i gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae'r amgylchedd groesawgar yn sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn anweledig a chaiff pob plentyn ei feithrin a'i werthfawrogi am ei natur unigryw. Hyrwyddir lles, caredigrwydd, parch ac undod fel y gall eich plentyn gyrraedd ei lawn botensial a dod yn ddinesydd gweithgar, hapus a chyfrifol yn yr ysgol a’r gymuned ehangach. Rydym yn falch o fod yn ysgol sy’n hyrwyddo gwerthoedd cynhwysiant ac sy’n cefnogi gwaith yr elusennau Stonewall, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, NSPCC, Shelter Cymru yn ogystal â bod yn Ysgol Gredydedig Gwybodus am Drawma.

 

Yn Ysgol yr Hendy credwn y bydd gosod seiliau cadarn ym mhob agwedd o fywyd yn rhoi’r sgaffaldiau i’n disgyblion adeiladu bywydau cadarnhaol, iach a hapus. Anelwn at gyflawni hyn drwy roi’r disgyblion wrth galon eu dysgu a darparu cwricwlwm pwrpasol, perthnasol a dilys sy’n seiliedig ar hawliau’r plentyn, lle caiff pob disgybl y cyfle i fod y gorau y gallant fod ( Erthygl 29). Sefydlwyd ein cwricwlwm ar bopeth y mae dysgwr yn ei brofi wrth fynd ar drywydd y Pedwar Diben. Nid yn unig yr hyn yr ydym yn ei addysgu sy’n bwysig, ond sut a pam yr ydym yn ei addysgu. Dyma’r profiad ysgol gyfan a gynigir, profiadau sydd nid yn unig wedi’u  cyfyngu i wersi a gweithgareddau o fewn y diwrnod ysgol, ond gyda ffocws craff ar les, creadigrwydd, dwyieithrwydd, y celfyddydau perfformio, cynaladwyedd a chwaraeon. Mae ein cwricwlwm yn cynnwys yr agweddau a’r gwerthoedd a hyrwyddwn, y cyfleoedd a ddarparwn y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, a’r perthnasoedd sydd gennym gyda’n teuluoedd a’r gymuned. Cyflawnir hyn drwy sicrhau bod y pedwar diben wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei gynllunio ac yn ei wneud.
 
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod yn ysgol gyfeillgar, agored a hapus. Rydym yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn potensial. Rydym yn annog plant i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth.
 
Edrychwn ymlaen at bartneriaeth hapus, lwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.

 

                                                                ********************************************************

 

                                            It is a pleasure to introduce myself as the proud Headteacher of Ysgol Yr Hendy.

 

At Ysgol Yr Hendy, we believe that when children are happy in school, they thrive. Ysgol Yr Hendy is a caring, community school where children have the opportunity to be educated through the Medium of Welsh or English. The welcoming environment ensures no pupil is invisible and each child is nurtured and valued for their uniqueness. Well-being, kindness, respect and togetherness are promoted so that your child can reach his or her full potential and become an active, happy and responsible citizen in the school and the wider community. We are proud to be a school that promotes the values of inclusion and supports the work of the charities Stonewall, Show Racism the Red Card, NSPCC, Shelter Cymru as well as being a Trauma Informed Credited School.

 

At Ysgol Yr Hendy we believe that providing firm foundations in all aspects of life will give our pupils the scaffolding to build positive, healthy and happy lives.  We aim to achieve this by placing the pupils at the heart of their learning and providing a purposeful, relevant and authentic curriculum that is underpinned by the rights of the child, where all pupils are given the opportunity to be the best that they can be (Article 29).

Our curriculum is everything a learner experiences in pursuit of the Four Purposes.  It is not simply what we teach, but how we teach and crucially, why we teach it.  It is the whole school experience offered, not merely restricted to lessons and activities within the school day, with a keen focus on well-being, creativity, bilingualism, the performing arts, sustainability and sport.  Our curriculum includes the attitudes and values we promote, the opportunities we provide beyond the school day, and the relationships we have with our families and the community. This is achieved through ensuring the four purposes are at the heart of what we plan and do.

 

We take pride in the fact that we are a friendly, open and happy school. We are very keen to work in partnership so that our pupils achieve their full potential. We encourage children to respect others and demonstrate a love towards their country, language, culture and heritage.

 

We look forward to a happy, successful and fruitful partnership during your child’s primary education.

 

 

 

 

Datganiad o genhadaeth/ Mission Statement:

Law yn llaw gyda'n gilydd cymaint mwy

(Together hand in hand we are so much more)

 

Gwledigaeth ein hysgol: 

Ysgol sydd wedi cael ei chreu allan o gariad. Mae lles emosiynol a meddyliol ein disgyblion yn graidd  i’n hethos ni yma yn yr ysgol . Fe fyddwn yn meithrin pob plentyn i brofi’r llawenydd sydd mewn perthnasoedd gan eu hannog i ddatblygu a thyfu i fod y fersiwn gorau posib ohonynt hwy ei hunain. Ein nod yw darparu amgylchedd ddwyeithog, cyfoethog yn llawn hwyl a miri ac sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn ysgogol i’n plant ni, er mwyn datblygu eu cariad at ddysgu trwy ddulliau fforiol  a chwilfrydig.

 

Ein nod yw i arfogi  ein disgyblion gyda’r sgiliau i dyfu i fod yn oedolion hapus a iach sydd yn  meddu’r gallu i hunan-ysgogi a meithrin  hunan-hyder. Fe wnawn hyn trwy:

  • ddarparu ystod o gyfleoedd a phrofiadau yn fewnol ac yn  allanol i’r disgyblion fedru  datblygu eu sgiliau cyfathrebu, gwrando a chyd-weithio, er mwyn iddynt fedru’r gallu i weithio’n effeithiol  fel rhan o dim.
  • gefnogi ein disgyblion wrth iddynt ddatblygu  i fod yn unigolion rhifog a llythrennog ac yn ddigidol gymhwysol, er mwyn iddynt fedru gweithio yn unigol ac yn annibynnol wrth ymgeisio i gael mynediad i’r wybodaeth anghenrheidiol sydd angen arnynt i chwarae eu rhan yn llawn mewn cymdeithas.
  • Modelu ymddygiadau cadarnhaol a'r gwerthoedd caredigrwydd ac empathi
  • Gefnogi a herio ein disgyblion i barchu a gweld gwerth ynddynt hwy eu hunain, eraill, y gymdeithas a’u cynefin ynghyd â’r byd ehangach y maent yn byw ynddi.
  • Ddysgu ein disgyblion am bwysigrwydd  caredigrwydd, teimladau ac empathi ar gallu i ddatrys  gwrthdaro er mwyn iddynt fedru datblygu gwytnwch  i wynebu a delio gyda heriau a sialensau bywyd.  

                                                                                                                     

Gyda llais y disgybl yn graidd i bob dim, ein gweledigaeth yw i ddarparu ystod o brofiadau addysgol  ar y cyd â phrofiadau  real o fywyd bob dydd i’n plant ni, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu i fod yn ddysgwyr iach, hyderus, creadigol ac uchelgeisol sydd yn gweld sialens a her fel cyfle euraidd i ddysgu a thyfu gyda’r ffocws hefyd ar fod yn wybodus browd o’u treftadaeth a’r diwylliant Gymreig.

 

Our school vision:

A school created out of love. The emotional and mental well-being of our pupils is central to the ethos of our school and we will nurture every child to experience the joy of relationships and become the best version of themselves.  We aim to create an enriched bilingual environment which is fun safe and inclusive, and stimulates our pupils to develop a love of learning through exploration, curiosity and awe.

                                               

We want to provide our pupils with the skills to grow into happy, healthy, self- motivated and self-confident adults by:

  • Providing pupils with a range of opportunities and experiences to develop their communication, listening and collaboration skills so they can work effectively as part of a team.
  • Supporting our pupils to become literate, numerate and digitally competent so they can work on their own and access information needed to play their full part in society.
  • Modelling positive behaviours and the values of kindness and empathy
  • Supporting and challenging our pupils to respect and value themselves, others, their locality (cynefin)and the world in which they live.
  • Teaching our pupils about kindness, feelings and empathy while helping them to resolve conflict so they can develop the resilience to face and cope with the challenges of life.

 

In collaboration with pupil voice, our vision is to provide a range of educational activities and real-life learning experiences that will enable our pupils develop into healthy, confident, creative, ambitious, ethical learners who see challenge as an opportunity to learn and grow and are proud and knowledgeable about their Welsh heritage and culture.

Neges i'r plant yr Hendy/ A message to the pupils of our school :

 

YSGOL YR HENDY AR/ON CYMRU FM

Top