Dyma ni ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd.
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn hapus a llwyddiannus gyda’n gilydd.
Here we are at the beginning of a new school year.
We look forward to another happy and successful year together.
Athrawes Dosbarth / Classroom Teacher: Mrs Rhiannon Griffiths
Cynorthwywydd dosbarth/Classroom assistant: Mrs Nicola Fowler
Cyswllt/Contact: admin@hendy.ysgolccc.cymru
Dyma Proffil Un Dudalen ein dosbarth/ Here's our class One Page Profile:
Gwybodaeth defnyddiol i Rieni/Warchodwyr:
THEMA
Ein thema ar gyfer y tymor yma ydy 'Nôl i'r 60au.'
GWAITH CARTREF
Mae gwaith cartref yn cael ei osod pob Dydd Llun, ac mae’n disgwyl iddo fod mewn ar Ddydd Gwener. Bydd y plant yn gallu cwblhau gwaith cartref yn ei llyfrau gwaith cartref.
Yn ystod ail hanner pob tymor, byddwn yn gosod prosiect dysgu gartref.
SILLAFU
Fe fydd geiriau sillafu yn cael eu gosod ar ddydd Llun hefyd ac fe ddisgwylir i’ch plentyn ymarfer sillafu’r geiriau erbyn yr ymarfer sillafu ar ddydd Gwener.
Rhoddir geiriau Cymraeg a Saesneg i blant bob pythefnos.
TABLAU LLUOSI
Rydym yn gofyn yn garedig i chi helpu eich plentyn dysgu ei dablau.
DARLLEN
Y tymor yma fe fydd plant yn derbyn llyfrau a chofnod darllen ac mi fydd y llyfr / cofnod darllen yn dod adref gyda’ch plentyn yn ddyddiol ac yn dychwelyd i’r ysgol bob dydd. Mae’n bwysig i bob llyfr dychwelyd yn brydloni’r ysgol oherwydd prinder adnoddau darllen. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £5 am unrhyw llyfrau coll.
Bydd llyfrau Cymraeg a Saesneg yn cael eu darllen yn y dosbarth bob pythefnos.
ADDYSG GORFFOROL
Mae gwersi Ymarfer Corff yn digwydd ar ddydd Llun a ddydd Gwener. Bydd angen i’r plant wisgo cit cyfforddus ac esgidiau addas i'r wers Ymarfer Corff.
YR YSGOL GOED
Bydd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Ysgol Goedwig bod pythefnos. Sicrhewch fod y plant wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd yn ein sesiynau dydd Gwener.