CADWCH eich plentyn yn DDIOGEL ar y rhyngrwyd
KEEPING your child SAFE on the Internet
Rydym yn Ysgol yr Hendy yma i'ch helpu i gadw'ch plant yn ddiogel ar lein. Cymerwch amser i ddarllen y wybodaeth isod a rydym yn eich cynghori'n gryf i ymweld â rhai o'r gwefanau a thrafod y mater yn fanwl gyda'ch plant. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn dilyn y rheolau yma pob dydd yn yr ysgol ac adref.
We here at Ysgol yr Hendy are here to help you keep your children safe online. Please take time to read the information below and we strongly advise that you visit some of the websites and discuss the issues with your children. It's important that we all follow these rules every day in school and at home.
- Byddaf yn defnyddio TGCh. yn yr ysgol ar gyfer dibenion ysgol.
- Byddaf yn defnyddio e-bost fy nosbarth neu e-bost yr ysgol pan fyddaf yn e-bostio.
- Byddaf yn agor ychwanegiadau e- bost oddi wrth bobl rwyf yn adnabod neu rhai sydd wedi cael eu cymeradwyo gan fy athro neu athrawes.
- Ni fyddaf yn datgelu fy nghyfrineiriau TGCh wrth neb.
- Byddaf yn agor / dileu fy ffeiliau personol i yn unig.
- Byddaf yn sicrhau fod cysylltiad TGCH gyda phlant eraill ac oedolion yn gyfrifol, yn gwrtais ac yn synhwyrol.
- Ni fyddaf yn chwilio am, yn cadw neu yn danfon unrhyw neges a allai fod yn gas neu yn ddrwg. Os byddaf yn dod o hyd i ddeunydd fel hyn byddaf yn rhoi gwybod i athro neu athrawes ar unwaith.
- Ni fyddaf yn datgelu fy manylion sef, fy enw, fy rhif ffon neu fy nghyfeiriad.
- Ni fyddaf yn trefnu i gwrdd ag unrhyw un oni bai ei fod yn ymwneud a chywaith ysgol sydd wedi ei gadarnahu gan yr athro neu yr athrawes a bod oedolyn cyfrifol yn mynd gyda fi.
- Byddaf yn gyfrifol am fy ymddygiad fy hunan pan fyddaf yn defnyddio TGCh oherwydd deallaf bod y rheolau hyn ar gyfer cadw fi’n ddiogel.
- Byddaf yn cefnogi rheolau’r ysgol am ddiogelwch ar lein ac ni fyddaf yn lawrlwytho, nag yn ychwanegu lluniau, fideo , synau na tecst a allai niweidio unrhyw aelod o gymuned yr ysgol.
- Rwy’n gwybod y gall fy nefnydd o TGCh gael ei wirio a chaiff fy rhiant/ gwarchodwr wybodaeth os oes gan unrhyw aelod o staff yr ysgol unrhyw bryderon am fy e-ddiogelwch.
Adnoddau E-ddiogelwch / E-Safety Resources - Am wybodaeth a gweithgareddau ar e-ddiogelwch, yn cynnwys gwersi a rhestrau chwarae / For information and activities on e-safety, including lessons and playlists.
Gemau cyfrifiadur - Am wybodaeth am gemau cyfrifiadur addas cliciwch ar y ddolen / For information about suitable computer games, click on the link
School Beat - Gwefan ddwyieithog yw SchoolBeat.cymru o Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, sy’n rhoi gwybodaeth ac adnoddau i ddisgyblion, athrawon, rhieni a phartneriaid i atgyfnerthu negeseuon allweddol a gyflwynir gan ein Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â lleoliadau addysgol amgen /SchoolBeat.cymru is a bilingual site from the All Wales School Liaison Core Programme, providing information and resources for pupils, teachers, parents and partners to reinforce the key messages delivered by our School Community Police Officers in primary and secondary schools as well as alternative educational settings.