Menu

Ysgol yr Hendy

Law yn llaw, gyda’n gilydd, cymaint mwy

Welcome

Iechyd a Lles / Health and Well-being /

Sesiynau Ymarfer Corff gyda Joe Wicks!

Bydd Joe Wicks yn rhannu fideos ffitrwydd bob dydd er mwyn sicrhau bpd pawb yn cadw'n iach. 

 

P.E. sessions with Joe Wicks!

The Body Coach is hosting live PE classes every day in order to keep the nation fit and healthy as schools across the UK shut in a bid to tackle the coronavirus outbreak.

 

 

The Body Coach TV 2020 | The Home of Home Workouts

 

Sialens Sgiliau Rygbi - Jyglo / Rugby Skills Challenge - Juggling

Learn and practise to juggle with your time off. Follow my skills videos to find out how do start.

Dysgwch sut i jyglo! Dilynwch y fideos er mwyn cymorth pellach. 

Clwb Cartref: Sgiliau Pêl - gyda Steff Sgiliau

P'un a ydych yn bêl droediwr medrus neu yn syml am gynyddu'ch sgiliau cydsymud, mae Steff yma gyda fideo i'ch helpu i gadw ar ben eich sgiliau! Cofiwch fod y...

Psychological Support for Children and Parents Coping with COVID-19

Story time with Miss D'Angelo / Amser stori gyda Miss D'Angelo

Ymwybyddiaeth Ofalgar i blant

Dull o ganolbwyntio ein sylw ar y funud honno, sy’n defnyddio technegau fel myfyrdod, anadlu ac ioga yw ymwybyddiaeth ofalgar (Mindfulness). Mae’n ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau er mwyn ein rhoi mewn sefyllfa gwell i’w rheoli, yn hytrach na chael ein llethu ganddynt.

Sut gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu?

Gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel modd i reoli ein lles a’n iechyd meddwl. Er bod gwaith ymchwil ym maes ymwybyddiaeth ofalgar yn parhau, mae tystiolaeth wedi awgrymu ei fod yn llesol i iechyd a lles: dengys y canlyniadau effeithiau cadarnhaol ar sawl agwedd ar iechyd, gan gynnwys y meddwl, yr ymennydd, y corff, ymddygiad, a pherthnasoedd pobl ag eraill.

Dangoswyd hefyd fod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu i atal nifer o gyflyrau, gan gynnwys straengorbryderiselderymddygiadau caethiwus tebyg i gam-drin alcohol neu sylweddau, gamblo, problemau corfforol fel gorbwysedd, clefyd y galon a phoen cronig.

 


Sut mae dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar?

Gellir ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn unigol, ar gwrs mewn grŵp neu yng nghwmni hyfforddwr personol sydd wedi hyfforddi ym maes ymwybyddiaeth ofalgar.  Er bod ymwybyddiaeth ofalgar yn tarddu o Fwdhaeth, nid oes raid i ni fod yn grefyddol nac ysbrydol i ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar.

Gallwn ddefnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn ein bywyd bob dydd, ac nid oes rhaid iddo gymryd llawer o ymdrech nac amser. Gallwn ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar mewn munud yn unig yn hyd yn oed.

Isod, disgrifir ymarferion munud amrywiol mewn ymwybyddiaeth ofalgar y gellid rhoi cynnig arnynt unrhyw le ar unrhyw adeg.


Anadlu

Rhowch sylw am funud i’ch anadlu. Anadlwch i mewn ac allan fel y byddech yn ei wneud fel arfer: sylwch ar yr amser rhwng pob anadliad i mewn ac anadliad allan; sylwch ar eich ysgyfaint yn ymledu. Pan fo’ch meddwl yn crwydro, canolbwyntiwch ar anadlu’n araf i ddod a’r meddwl yn ôl.

(Llun: Celf Calon)


Sgan o’r corff

Byddwch yn ymwybodol o’ch corff am funud. Caewch eich llygaid a dechreuwch sganio’ch corff. Dechreuwch gyda’ch traed, yna’n araf, gadewch i’ch ymwybyddiaeth dreiddio’n araf i fyny eich corff ac i’ch dwylo. Pa synwyriadau ydych chi’n eu teimlo? Trymder yn y coesau? Ysigiad yn y cefn? Efallai nad ydych yn profi’r un synnwyr. Ar ôl y dwylo, canolbwyntiwch ar yr amgylchedd a’r gofod o’ch cwmpas.


Cerdded gofalgar

Cerddwch yn araf: byddwch yn ymwybodol o’r teimladau yng ngwadnau eich traed wrth iddynt gyffwrdd a’r llawr a theimladau y profwch yng nghyhyrau’r coesau. Does dim rhaid i chi edrych ar eich traed. Pan fo’ch meddwl yn crwydro, defnyddiwch gyswllt eich traed a’r llawr fel angor i’ch tynnu yn ôl i’r presennol. Rhowch amser i chi’ch hun i ganolbwyntio ar y synwyriadau a brofir wrth gerdded. Gellid ymarfer y dechneg hon ar unrhyw adeg.


Bwyta mewn modd gofalgar

Y tro nesaf y byddwch chi’n bwyta, stopiwch ac edrychwch ar eich bwyd. Rhowch eich holl sylw iddo. Sylwch ar yr ansawdd: edrychwch, teimlwch, aroglwch y bwyd go iawn a’i gnoi – gan sylwi ar y blas a’r ansawdd yn y geg – parhewch i gnoi, rhowch eich holl sylw ar ei flas. Gall bwyta mewn modd gofalgar ein tynnu allan o fwyta’n ddifeddwl, ein helpu i werthfawrogi a mwynhau’r profiad yn fwy.

  

 

Ymwybyddiaeth Ofalgar (taflenni lliwgar) - mwynhewch!

Cardiau meddylgar

 

Mindfulness for Children

Mindfulness is a good tool for children. There is an emerging body of research that indicates mindfulness can help children improve their abilities to pay attention, to calm down when they are upset and to make better decisions. In short, it helps with emotional regulation and cognitive focus.

 

 

 

Positive and negative effects the internet and technology

 

Today the fourth guide in a new series of five offering useful ideas for parents and carers has been published.

This guide provides information on some of the positive and negative effects the internet and technology may have on children and young people. The guide includes suggestions for parents and carers on how to manage their child’s well-being along with tips and resources on how to maintain conversations and monitor your child’s interaction with technology.

A parent and carer’s guide to the potential impact of the internet on their children's well-being

 

Previous issues

If you missed the previous issues you can find them below. 

A parent and carer's guide to social media

A parent and carer's guide: sharing information and images online

A parent and carer's guide to safety features for smart TVs and on-demand streaming services

A parent and carer's guide: age ratings of apps and games

A parent and carer's guide: google Safe Search and YouTube Safety Mode

A parent and carer’s guide: Talking to your child about staying safe online


Mindfulness Colouring - please enjoy these activities!

Mindfulness relaxation techniques

Top