Menu

Ysgol yr Hendy

Law yn llaw, gyda’n gilydd, cymaint mwy

Welcome

Tips i helpu eich plentyn cael digon o gwsg / Tip to ensure your child gets enough sleep

Yn aml mae rhieni yn gofyn i mi - " Beth ddylwn i wneud Mrs Kenny er mwyn helpu fy mhlentyn?" Yn syml - sicrhewch fod eich plentyn yn derbyn digon o gwsg.

Mae hyn yn haws dweud na gwneud! Mae cwsg mor bwysig -pam ? 

 

Mae'n dod â buddiannau gwirioneddol:

- i'r iechyd corfforol wrth helpu'r corff a'r cyhyrau eu hadfer ar ôl diwrnod prysur yn ysgol,

- i'r llesiant meddyliol- mae'n rhoi amser i'r ymennydd greu neu gryfhau llwybrau dysgu newydd.  

- mae'n sicrhau bod eich plentyn o fewn yr hwyliau da i ganolbwyntio, chwarae gyda'u ffrindiau heb gweryla ac yn barod a bodlon i ddysgu sgiliau newydd

- llai tebygol i fod yn sâl oherwydd mae cwsg yn cyfnerthu'r system imiwnedd .

 

Dyma wefan dda sydd yn rhannu sut yr allwch helpu eich plentyn i gysgu'n well.

 

Very often parents ask me - " Mrs Kenny what can I do to help my child?" Simply ensure your child gets enough sleep. I know this can be easier said than done but why is sleep so important? It brings huge benefits:

- physical health- it helps the body and muscles recover after a busy day at school,

- mental health - it gives the brain time to create and strengthen learning pathways,

- it ensures your child is in the right frame of mind to concentrate, play with friends without falling out ac is willing and ready to learn new skills 

- less likely to be ill because sleep helps the immune system .

 

Top