Menu

Ysgol yr Hendy

Law yn llaw, gyda’n gilydd, cymaint mwy

Welcome

Y Criw Cymraeg a'r Siarter Iaith

 

Y CRIW CYMRAEG 2023/24

Mae Criw Cymraeg yr ysgol yn gweithio’n ddiwyd yn hyrwyddor Iaith Gymraeg ar draws y ffrwd Saesneg a’r ffrwd Gymraeg. Maent yn gyfrifol am annog siarad Cymraeg ar lawr dosbarth ac allan ar yr iard wrth gymdeithasu. Maent yn cyflwyno patrymau Iaith wythnosol ac yn trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau sydd yn hyrwyddo siarad Cymraeg yng nghwmni Seren a Sbarc. 

 

The Criw Cymraeg work relentlessly to promote the Welsh language in both the Welsh and English streams. They 're responsible for encouraging the use of the Welsh language in the classroom and whilst socialising on the school yard. The Criw Cymraeg present a new language pattern weekly and organise a multitude of activities that, with the help of Seren and Sbarc (our mascots), promote the Welsh language. 

 

 


SIARTER IAITH

 

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

 

The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. Over the next three years the school will have the opportunity to win a bronze, silver and gold award. The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community.

 

 

 

 

 

Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi ein bod wedi derbyn y wobr Arian! 

It is with great pride that we can announce that we are now recipients of the silver Siarter Iaith' award! 

 

 

Diwrnod Shw Mae! 2023

Gig Cymraeg Megan Haf Davies

Dosbarthu pamffledi yn y Gwasanaeth Cynhaeaf

Gwybodaeth am 'Cymraeg Campus' i rieni / Information on 'Cymraeg Campus' for parents

Manteision Dwyieithrwydd / Advantages of Bilingualism

Cardiau Cymraeg ar dy dafod

Dydd Miwsig Cymru 2022!

Dathlu canmlwyddiant yr Urdd!

Dydd Gwyl Dewi 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Beth yw'r Siarter Iaith? What is the Siarter Iaith?

Diwrnod Shwmae (2021)

Still image for this video

Siarter Iaith Ysgol Yr Hendy

This video is about Siarter Iaith

Top